Mae'nhawdd cysylltu.

Gellir cysylltu â’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng
8am – 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener) ar gyfer argyfwng
Atgyweiriadau ac Ymholiadau Tai.

Oriau Agor y Nadolig

Gwybodaeth
Pwysig

Rydym yn ymwybodol y cysylltir â thrigolion o bryd i’w gilydd heb eu caniatâd trwy alwad diwahoddiad.

Er ein bod yn gresynu nad oes gennym unrhyw reolaeth dros hyn, gallwn eich sicrhau ein bod yn cymryd preifatrwydd data o ddifrif ac na fyddem byth yn rhannu unrhyw wybodaeth heb eich caniatâd.

Yr unig wybodaeth y byddem yn gofyn ichi amdani wrth gysylltu â chi fyddai eich enwau, cyfeiriad, DOB a’ch rhif ffôn. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am eich rhif Yswiriant Gwladol.

Ni fyddem byth yn gofyn am fanylion cyfrif banc, cyfrineiriau neu wybodaeth sensitif arall o’r fath, ac ni fyddem yn gofyn ichi dalu negesydd mewn arian parod na gofyn am fynediad o bell i’ch cyfrifiadur / ffôn symudol / llechen.

Sut allwn ni helpu?

Rydym yn deall pwysigrwydd cael ein gwefan gyfan ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod ond dim ond yn y Saesneg y mae’r ffurflen hon ar gael ar hyn o bryd. Os hoffech gael gwybod pan fyddwn yn lansio’r dudalen hon yn y Gymraeg, nodwch eich cyfeiriad ebost isod, a byddwn yn cysylltu gyda chi.

*Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar y ffurflen hon yn cael ei storio’n ddiogel ac yn gyfrinachol a’i defnyddio mewn perthynas â’r pwnc penodol rydych yn ei ddewis o’r opsiynau isod. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhoi i unrhyw un y tu allan i Fron Afon.

Mae ein swyddfeydd ar gau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac rydym yn defnyddio tridiau o wyliau i gwmpasu’r amser hwnnw. Felly eleni, bydd ein gwyliau Nadolig yn edrych fel hyn:

Rhagfyr
Gwe, 24ain (noswyl Nadolig)
Bydd swyddfeydd a gwasanaethau yn cau am hanner dydd (12.00) ac yna bydd ein gwasanaethau y tu allan i oriau yn cymryd drosodd.

Sad 25ain – Dydd Nadolig
Sul 26ain – Dydd San Steffan
Llun, 27ain – Gwyl y banc (eilydd)
Mawrth, 28ain – Gwyl y Banc (eilydd)
Mer, 29ain – Swyddfa ar gau
Dydd Iau, 30ain – Swyddfa ar gau
Gwe, 31ain – Swyddfa ar gau

Ionawr
Sad Dydd Calan 1af
Llun, 3ydd – Gwyl y Banc (eilydd)

Felly bydd hyn yn golygu y bydd ein gwasanaethau’n symud i argyfyngau dim ond am hanner dydd ddydd Gwener 24ain Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mawrth 4ydd Ionawr.