Gwasanaethgofalu a thiroedd

Rydyn ni’n gofalu am ardal o Torfaen sy’n cyfateb i faint cannoedd o gaeau pêl-droed. Rydyn ni’n torri’r glaswellt, yn gofalu am wrychoedd a choed, yn delio â sbwriel, tipio anghyfreithlon a llawer mwy. Mae’n ardal fawr i’w gwasanaethu felly os ydym wedi methu rhywbeth gallwch chi roi gwybod i ni yma.

Cysylltu

Ein hamserlen

Dyma restr o beth o’r gwaith rydyn ni’n eu gwneud ar y tir rydyn ni’n gofalu amdano trwy gydol y flwyddyn. Mae cyngor Torfaen yn gofalu am lwybrau troed a ffyrdd lle mae gennym dai a fflatiau. Maent hefyd yn delio â phopeth sy’n ymwneud â biniau ac ailgylchu. Gallwch roi gwybod iddynt am unrhyw broblemau trwy ffonio 01495 762200.

Trwy gydol y flwyddyn rydym yn casglu sbwriel ac yn delio â thipio anghyfreithlon ar ein tir ac mewn ardaloedd cymunedol.

Bob wythnos rydyn ni’n clirio biniau ac yn cynnal gwiriadau diogelwch yn y siopau a’r mannau chwarae rydyn ni’n berchen arnyn nhw. Rydym hefyd yn ymweld â’n cynlluniau ymddeol i’w harchwilio a’u glanhau.

Unwaith y mis rydym yn glanhau a/neu’n archwilio rhannau cyffredin o’n blociau o fflatiau. Os ydych chi’n gweld y tîm o gwmpas, rhowch wybod iddyn nhw os oes gennych chi unrhyw bryderon neu os oes rhywbeth yn eich poeni. Gallwch roi gwybod i’r tîm os nad yw rhywun yn eich bloc yn delio gyda’u gwastraff yn gywir.

Coed

Rydyn ni’n archwilio’r holl goed ar y tir rydyn ni’n berchen arno trwy gydol y flwyddyn. Ond nid yw hyn yn cynnwys y rhai mewn gerddi deiliad contract. Os ydych chi’n poeni am goeden, rhowch wybod i ni, a byddwn yn ei harchwilio. Os oes angen gwneud unrhyw waith byddwn yn ei drefnu pan fydd y coed yn segur neu amser addas arall.

Ein blwyddyn

Dyma beth rydyn ni’n ei wneud bob blwyddyn. Mae’n dechrau ym mis Hydref gan mai dyna pryd mae’r gwaith hwn yn cael ei gychwyn.

Hydref

Yn dibynnu ar y tywydd efallai y byddwn yn parhau i dorri’r gwair tan ganol mis Hydref. Rydym yn dechrau ein gwaith cynnal a chadw gwelyau llwyni gaeaf ac yn cynnwys chwythu dail a chlirio i’r rhestr o waith.

Bydd ein blodau gwyllt wedi dechrau marw, felly rydyn ni’n torri ac yn clirio’r ardal ar gyfer ailblannu y flwyddyn nesaf. Efallai y bydd y gwaith hwn yn parhau i fis Tachwedd. Mae eira yn fwy tebygol felly os bydd angen bydd y tîm hefyd yn clirio rhywfaint o eira a gwneud peth gwaith graeanu.

Tachwedd – Chwefror

Rydym yn parhau â’n gwaith cynnal a chadw llwyni gaeaf, yn delio â dail, yn casglu sbwriel ac yn gyffredinol yn cadw Torfaen yn daclus.

Mawrth

Daw ein gwaith cynnal a chadw llwyni a gwrychoedd gaeaf i ben y mis hwn wrth i ni ddechrau yn y gwanwyn.
Ganol y mis byddwn yn dechrau torri gwair. Rydyn ni neu’r Cyngor yn gofalu am y glaswellt y tu allan i’ch cartref ac o’i gwmpas. Bydd y cyngor hefyd yn torri’r rhan fwyaf o’r ymylon ar hyd ochrau ffyrdd.

I still have some questions...

If you still have some questions on caretaking and grounds service, then please fill out our enquiry form and we’ll advise you further.