Media Enquiries
with Bron Afon.

Ymholiadau Cyffredinol

Os ydych yn gwsmer neu os oes gennych ymholiad cyffredinol am Bron Afon, cysylltwch â ni drwy ein tudalen gyswllt.

Ymholiadau Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad cyfryngau ar gyfer ein swyddfa wasg, cysylltwch â ni ar communications@bronafon.org.uk

Os hoffech glywed ein newyddion diweddaraf, anfonwch e-bost atom a byddwn yn eich cynnwys yn ein dosbarthiad datganiad i’r cyfryngau.

Dilynwch Bron Afon

Gallwch gael gwybod y diweddaraf gyda Bron Afon ar y Cyfryngau Cymdeithasol.

Ein Rheolau Cyfryngau Cymdeithasol

Bydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am ein gwaith, ein gwasanaethau a’n partneriaid a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ein cymunedau.

Rydym yma i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn, ond rydym yn disgwyl i ddefnyddwyr gynnig yr un lefel o gwrteisi i ni ag yr ydym yn ei chynnig iddyn nhw. Rydym eisiau i’n sianelu cyfryngau cymdeithasol fod yn lle diogel ac yn lle ar gyfer trafodaeth iach ac agored, a dyma pam y mae gennym restr fer o reolau ar hyn:

  • Rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio gyda Thelerau Defnydd y llwyfan cyfryngau cymdeithasol ynghyd â’n telerau defnydd ninnau.
  • Rydym yn monitro pob un o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol rhwng 9am – 5pm Llun – Gwener.
  • Nid yw dilyn neu gynnwys dolen i gyfrif cyfryngau cymdeithasol neu gynnwys arall yn golygu ein bod yn ei gymeradwyo.
  • Byddwn yn dileu, yn rhannol neu’n gyfan-gwbl, unrhyw bost sydd yn ein barn ni yn amhriodol neu’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp.
  • Rydych yn gwbl gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych yn ei bostio gan gynnwys cynnwys rydych yn dewis ei rannu.
  • Byddwn yn dileu negeseuon (lle mae’r swyddogaeth yn caniatáu hynny) a/neu’n blocio defnyddwyr ar ein sianelu cyfryngau cymdeithasol sy’n postio negeseuon i ni sydd yn ein barn ni yn:
  • Sarhaus neu’n aflednais
  • Twyllodrus neu’n gamarweiniol
  • Yn torri unrhyw hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint
  • Yn torri unrhyw gyfraith neu reoliadau
  • Sbam neu gynnwys oddi ar y pwnc (pyst negyddol a/neu sarhaus cyson gyda’r nod o bryfocio ymateb)
  • Deunyddiau hyrwyddo gan gynnwys dolennau i wefannau a hyrwyddiadau allanol 

Bydd unrhyw un sy’n cysylltu gyda ni dro ar ôl dro gan ddefnyddio cynnwys neu iaith sy’n dod o fewn y categorïau uchod yn cael eu blocio a/neu eu hadrodd i’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol perthnasol. Ni fyddwn yn oddef neu’n ymateb i negeseuon sarhaus.

Defnyddio Brand

Os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio ein brand, logo neu ein llun heb ein caniatâd. Os oes gennych reswm dilys dros ddefnyddio ein brand, cysylltwch â communications@bronafon.org.uk  i gael ein canllawiau brand.