Mae cyfarfodydd ein Bwrdd yn agored i’r cyhoedd. Mae gennym bob amser ddiddordeb mewn siarad gyda phobl sydd eisiau ymuno â’n Bwrdd. Ebostiwch ein tîm llywodraethu ar governance@bronafon.org.uk i gael gwybod mwy.
Mae aelodau ein Bwrdd yn gweithredu i’r safonau uchaf ac yn dilyn Cod Ymddygiad. Maent wedi mabwysiadu’r Cod Llywodraethu ar gyfer y sector. Mae’r dogfennau hyn yn ein helpu i fod yn atebol, yn agored ac i roi’r cwsmer yn gyntaf bob amser. Mae perfformiad ein Bwrdd hefyd yn cael ei arolygu gan ein Rheolydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar sut cawn ein llywodraethu i’w gweld yn ein Rheolau Sefydlog sy’n cefnogi ac atgyfnerthu ein Rheolau. Mae ein Rheolau Sefydlog yn rhoi arweiniad ar gyfansoddiad y Bwrdd, y swydd sydd gan bob aelod ac am beth maent yn gyfrifol. Mae hefyd yn esbonio rôl Pwyllgorau’r Bwrdd a’n Tîm Gweithredol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Rheolau Sefydlog, cysylltwch ag aelod o’n Tîm Llywodraethu governance@bronafon.org.uk