Arolwg Boddhad Tenantiaid - Cymraeg
Telerau ac Amodau Mae hon yn raffl am ddim. Mae’r raffl yn agored i denantiaid Bron Afon yn unig. Y wobr yw £100 o docynnau Love to Shop. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Un cais fesul person, Gellir cymryd rhan drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefan Bron Afon a thrwy gwblhau arolwg papur. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, cwblhewch ffurflen arlein neu arolwg papur er mwyn cyflwyno eich enw a’ch cyfeiriad ebost. I fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth hon, cyflwynwch eich cais erbyn 12pm GMT ar 31 Mai 2022. Bydd y cais buddugol yn cael ei dynnu ar hap ar 1af Mehefin 2022. Hysbysir y buddugol drwy lythyr neu ar y ffôn o fewn 48 awr i ddewis yr enw. Os na allwn gyrraedd yr enillydd ar ôl tri chais i gysylltu, byddwn yn tynnu enw arall fel y nodir uchod. Anfonir y wobr drwy bost cofnodedig ar 1af Mehefin 2022. Bydd Bron Afon yn cadw holl gyfeiriadau ebost yn ddiogel ar weinydd Bron Afon yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. I gael gwybod mwy am sut rydym yn defnyddio eich data, ewch i https://www.bronafon.org.uk/old/our-privacy-notice/ Bydd yr holl wybodaeth a ddychwelir yn cael ei roi yn y raffl a bydd gan bob un gyfle cyfartal o ennill. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae’r buddugol yn cytuno ymddangos yn neunydd cyhoeddusrwydd a marchnata Bron Afon. Nid yw data byth yn cael ei werthu na’i rannu gydag elusennau neu gwmnïau eraill. Nid oes angen prynu unrhyw beth. Nid oes gwobr ariannol fel opsiwn amgen i’r wobr a nodwyd ar gael. Hyrwyddwr: Tai Cymunedol Bron Afon, Tŷ Bron Afon, Clôs William Brown, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbrân, NP44 3AB.

Drwy ddewis cymryd rhan yn y Raffl, rydych yn nodi eich bod yn hapus i ni gysylltu gyda chi mewn perthynas â chanlyniadau’r Raffl hon.